CIC Bang

19:30, 6 Tachwedd 2023

Clwb Ieuenctid Cristnogol i bobl ifanc dros 11 (oed uwchradd) yw CIC Bang. Nod y clwb yw creu lle saff i’r bobl ifanc a’r arweinwyr fod eu hunain a darganfod pa wahaniaeth mae ffydd yn Iesu yn gallu gwneud i’w bywydau heddiw. Byddwn ni’n darganfod hyn drwy sesiwn awr a hanner llawn gemau, snacs, drama, gweithgareddau hwyl a mwy.

Cynhelir y Clwb ar nos Lun am 7.30 – 9.00yh (yn ystod tymor yr ysgol) yng Nghapel Berea Newydd.  Croeso cynnes i bawb yn yr oedran uwchradd.