I ddathlu cyrraedd oed yr addewid dwi am fentro yn ôl i’r llwyfan ar fy liwt ac ar fy mhen fy hun y tro yma. Prysuraf i ddweud nad cyrraedd rhyw oedran arbennig sydd wedi fy sbarduno eleni ond y ffaith imi dderbyn anrheg hyfryd drwy’r post rhyw ychydig wythnosau cyn y clo mawr cyntaf yn 2020. Roedd agor y parsel a darganfod mai drama un dyn wedi ei sgwennu’n arbennig i mi gan fy ffrind annwyl, Aled Jones Williams, oedd y tu mewn yn lleddfu cryn dipyn ar wythnosau ynysig Ebrill a Mai 2020.
Ces gyfle i’w llwyfannu i gynulleidfa gyfyngedig gyda Theatr Bara Caws pan oedd covid 19 yn dal i greu ei lanast ar gynulleidfaoedd led-led y wlad. Rhan o drioleg oedd Y Dyn Gwyn yn wreiddiol yn dwyn y teitl Lleisiau a bydd y perfformiadau hynny i’w gweld ar wefan Bara Caws cyn bo hir. Ond r’on i’n gyndyn o adael i’r ddrama fynd a minnau ond wedi cael cyfle i’w pherfformio am bedair noson. Mi dwi a’r dyn gwyn yn hen lawia erbyn hyn ac yn gobeithio’n arw y dowch chi draw i’n gweld ar daith go bwysig yn fy ngyrfa i. Mae Aled am ymuno hefo fi ambell noson am sgwrs ac mi fydda i hefyd yn lansio ac yn darllen ambell bennod o’m hunangofiant, Yn Blwmp ac yn Blaen, i gloi fy nghyflwyniad.
Medd Aled am Lleisiau:
‘Yr wyf yn pwysleisio nad am Cofid y maent! Ond… o’r cyfnod hwnnw y tasgant. Felly ynddynt ceir ymdeimlad o baranoia ac o fyd lle mae pobl yn byw dan fygythiad sy’n aml yn ymylu ar drais.’