Bwrw golwg ar Bwrw Dail

18:30, 10 Chwefror 2023

Am ddim

Hon fydd digwyddiad cyntaf Palas Print eleni, a ’da ni’n falch iawn mai noson yng nghwmni Elen Wyn awdur Bwrw Dail, yw hi.

Yn wreiddiol o Gaernarfon mae Elen bellach wedi gosod gwreidda’ yn Ninbych. Dwy dref gaerog, meddai’r awdur, sydd wedi ei dysgu “nad adeilad yn unig ydi cartref, ond yn hytrach y bobl, y llwybrau, y caffis a’r coed.”

Mae gan Elen feddwl y byd o Gaernarfon a’i phobol, ac mae’n edrych ymlaen at gael eich cwmni yn y siop, wrth iddi gael sgwrs hamddenol gyda Nicky John a darllen pytia o’r gyfrol.

Croeso cynnes i bawb.