Noson o ganu carolau ar gyfer y gymuned gyfan, yng nghwmni Parti Camddwr, disgyblion Ysgol Rhos Helyg a CFfI Lledrod. Cyfle i’n cael ni i gyd yn naws y Nadolig ac i fwynhau gwin twym a mins peis.
Cesglir nwyddau a rhoddion ariannol tuag at fanc bwyd Aberystwyth, elusen sydd angen ein cefnogaeth yn fwy nag erioed.
Croeso cynnes i bawb!