Carolau Nadolig Ystrad Fflur

19:00, 6 Rhagfyr 2023

Abaty Ystrad Fflur Carolau o dan y sêr! Dydd Mercher y 6ed o Rhagfyr am 7pm, gyda lluniaeth yn y Beudy cynnes ar ôl hynny.

Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal ein Gwasanaeth Carolau cyntaf yn Eglwys y Santes Fair ac o amgylch adfeilion yr Abaty. Bydd hi’n noson nos Fercher y 6ed o Rhagfyr, dechrau am 7pm. Byddwn hefyd yn mwynhau mwy o gerddoriaeth Nadoligaidd gan Choirs For Good Aberystwyth a Llanidloes, ac mae’n argoeli i fod yn noson na ddylid ei cholli.

Dyma’r amser berffaith o’r flwyddyn i ymgynnull gydag anwyliaid i fwynhau cerddoriaeth a chanu gyda’i gilydd, gyda hon yn noson wirioneddol fythgofiadwy yn y lleoliad mwyaf prydferth. Dylid mwynhau’r lle hanesyddol ac atmosfferig hwn yng Nghanolbarth Cymru drwy gyd y flwyddyn, ond mae rhywbeth arbennig am y Nadolig a’r profiad o ddod at ei gilydd i ganu tu allan.

Mae croeso i bawb ymuno â ni. Os nad yw’r tywydd yn garedig i ni, cawn y cyngerdd yn Eglwys hardd y Santes Fair, gyda lluniaeth o win cynnes a mins peis yn Y Beudy ar ôl, gyferbyn â’r ffermdy, ar ôl y carolau i bawb fwynhau amser gyda’i gilydd. Cofiwch lapio’n gynnes yn erbyn yr oerfel gaeaf hwnnw.

Mae’r digwyddiad ac am ddim, ond mae croeso i roddion i Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur barhau â’u gwaith hanfodol wrth warchod a gwella’r safle arwyddocaol hwn.

Byddai’n braf croesawu cymaint o bobl â phosibl i Abaty Ystrad Fflur. Bydd yn brofiad hudol yn dod â cherddoriaeth yn ôl i’r Abaty yr adeg hon o’r flwyddyn, o dan y sêr.