Gan: Owen Thomas
Cyfarwyddwr: Gareth John Bale
Cynllunydd: Tegan Reg James
Cynllunydd Golau: Ceri James
Dyma ddrama am fywyd Carwyn James – dyn cymhleth iawn ac aml-ochrog. Dyn o flaen ei amser. Dyn poblogaidd ond unig. Enigma. Ychydig iawn oedd yn nabod Carwyn go iawn a beth oedd yn ei gyffroi a’i gynhyrfu. Fe wnaeth Carwyn argraff arbennig ar ei wlad a’r iaith Gymraeg yn ystod ei fywyd. Gwladgarwr a oedd yn addoli chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth. Hyfforddwr a faeddodd y Crysau Duon gyda tri gwahanol tim. Gellir dadlau ein bod ni wedi anghofio am Carwyn. Mae’r ddrama yma yn archwilio dyn a oedd yn fwy na cymeriad ym myd rygbi. Athro, sylwebydd, hyfforddwr ac ysbiwr hyd yn oed.
Mae’n 40 mlynedd eleni ers marwolaeth Carwyn. Credwn ei fod yn bwysig clywed ei hanes unwaith eto.
Canllaw oed: 14+
(Perfformiad cyfrwng Saesneg)