Chwarae’r Chwedlau

20:30, 16 Mawrth 2023

£12

Yng nghwmni perfformwyr rhagorol Cymru (neu rhai oedd jyst â’r argaeledd), dewch i Chwarae’r Chwedlau, noson Gymraeg newydd y Queer Emporium, i ddysgu mwy am hanes LHDTC+ y genedl. Yn y noswaith yma sy’n cyfuno drag, comedi, cerddoriaeth a mwy, gyda pherfformwyr yn cyflwyno’u dehongliadau o straeon, chwedlau a mytholeg mwyaf hwylus, syfrdanol ac yn bwysicaf, cwiar, Cymru.

Rhan o gyfres y Queer Emporium yn cymryd drosodd lleoliad Cabaret newydd Canolfan Mileniwm Cymru.