Cicio’r Bar 9 Mehefin

Mae noson Cicio’r Bar yn ei hôl ac yn gwisgo’i sbectol haul!

Dewch i’r Stiwdio Gron yng Nghanolfan y Celfyddydau nos Wener 9 Mehefin am wledd o farddoniaeth a cherddoriaeth.

Cerddi gan y prifardd-Gofi Rhys Iorwerth a chaneuon gan y lej â’r llais anhygoel, Linda Griffiths.

Llywir y noson, fel erioed, gan y ddau fardd lleol o fri, Eurig Salisbury a Hywel Griffiths.