Cinio blynyddol Cymdeithas Gwenynwyr Cymraeg Ceredigion

6 Rhagfyr 2023

Cynhaliwyd cinio blynyddol Cymdeithas Gwenynwyr Cymraeg Ceredigion ar nos Fercher y 6ed o Ragfyr 2023.

Yn Nhafarn y Ffarmers ym mhentre nodedig Llanfihangel Y Creuddyn  bu y digwyddiad hwn a braf gweld cymaint wedi troi allan, yn aelodau newydd yn ogystal a’r rhai arferol yn enwedig o wybod bod sawl un wedi cael amser reit heriol yn ystod y flwyddyn a fu.

Braf yw gweld bod gennym sawl aelod newydd yn ymuno a ni. Un rhan o bwrpas y gymdeithas yw annog pobl i ymdrin a’r greft o gadw gwenyn ac i rai sydd a dipyn o brofiad rannu eu gwybodaeth.Hefyd, rhan bwysig o bwrpas y gymdeithas drwy ei chymreigdod yw cadw y termau ieithyddol yn fyw ac yn bwrpasol.

Cafwyd noson hwyliog a phawb yn mwynhau y cymdeithas..