Cofio’r Arlunydd Cymreig Augustus John: yn ei gynefin yng Nghymru ac yn Ninas Lerpwl

19:00, 28 Ebrill 2023

Am ddim

Created with GIMP

Sgwrs yn Gymraeg gan Dr D Ben Rees – gyda chyfieithiad opsiynol

Un o Ddinbych y Pysgod oedd Augustus John ac yno o dan ofal ei fam a’r ysgol arlunio lleol y cafodd yr hwb i baentio. Cefnogwyd ef a’i chwaer athrylithgar Gwen John i ystyried hyfforddiant pellach yn Ysgol Arlunio Slade yn Llundain. Awgryma’r darlithydd fod y bachgen swil yn Sir Benfro wedi dod yn bohemian go iawn ar ôl damwain gas a ddigwyddodd i’w ymennydd wrth neidio o graig yn ymyl ei gartref i’r môr a niweidio ei hun. Ar ôl misoedd adref ailafaelodd yn ei addysg.

Daeth i Lerpwl yn 1901 gyda’i wraig ifanc i ddarlithio yn yr ysgol arlunio oedd yn gysylltiedig â’r brifysgol. Cyfarfu â llyfrgellydd y brifysgol John Sampson, awdurdod ar y sipsiwn Cymraeg, a mabwysiadodd Augustus fywyd ag agwedd y sipsiwn. Ni fu yn byw yn hir yn Lerpwl, lle ganwyd ei fab cyntaf David, ond gwnaeth argraff fawr yn y ddinas Geltaidd. Galwyd tafarn ar gampws y brifysgol ar ei ôl yn 1967 a chynhaliwyd arddangosfa o’i waith y llynedd.

Mae Dr D Ben Rees, Gweinidog Emeritws Capel Bethel, Lerpwl, yn enwog yn y ddinas fel hanesydd lleol. Mae e’n rhoi’r ddarlith hon fel rhagflas o ŵyl i gofio Augustus John a’i ffrind John Sampson, sy’n mynd i gael ei chynnal yn Lerpwl ar yr 17eg o Fehefin gan Gymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Merswy.

Cliciwch y botwm islaw er mwyn cofrestru am le yn y gynulleidfa