Cofio Cledwyn

10:15, 3 Mehefin 2023

Gŵyl i gofio a dathlu bywyd y cerddor, yr awdur a’r athro Cledwyn Jones (1923-2022) ar ganrif ei eni yn ei bentref genedigol, Talysarn. 

Bydd y diwrnod yn cynnwys taith gerdded, dadorchuddio plac i gofio amdano ac adloniant ysgafn yn y Ganolfan yn Nhalysarn. 

Mwy o wybodaeth am y diwrnod ac ychydig o hanes Cledwyn yma.

Amserlen y diwrnod hyd yma:

10.15: Ymgynnull ym maes parcio Talysarn. Taith gerdded ‘Caned Pawb’ yng nghwmni Ffion Eluned Owen i gychwyn am 10.30, fydd yn canolbwyntio ar gysylltiadau Talysarn a Phenygroes gyda cherddoriaeth, ac yn rhoi Cledwyn yn ei gyd-destun cerddorol. Dewch â phecyn bwyd gyda chi.

12.30: Dadorchuddio plac ar hen gartref Cledwyn yn 14 Eifion Terrace yng nghwmni’r cyfansoddwr a’r cerddor o Dalysarn, Robat Arwyn.

1.30: Paned a chacen yn y Ganolfan yn Nhalysarn gydag adloniant gan Robat Arwyn, Band Dyffryn Nantlle ac eraill. Sgwrs gan Angharad Tomos a bydd arddangosfa a ffilm fer i’w gweld.

Croeso i bawb – does dim angen cofrestru ac mae croeso i chi ymuno ar unrhyw adeg neu ar gyfer un rhan o’r diwrnod yn unig.