Bydd Lowri a Catrin yn dangos y mathau o bethau gallwch eu cyhoeddi ar eich gwefan fro i dynnu sylw at y pethau sy’n bwysig i chi, gan gynnwys:
– sut mae rhannu newyddion da neu stori lwyddiant
– edrych ar sut mae dod â digwyddiad yn fyw
– ffyrdd o rannu hanesion eich clwb neu fudiad
– fideos uchafbwyntiau chwaraeon
– darn barn a safbwynt
– creu cwis
– rhannu hanes lleol
… a bydd cyfle wrth gwrs i holi cwestiynau a thrafod eich syniadau chi.
Cofrestrwch i’r sesiwn zoom. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal am 12.30pm hefyd.
(Byddwn yn edrych yn fanylach ar flogiau byw fis nesa)