Creu pob math o stori ar y gwefannau bro: hyfforddiant byr

12:30, 8 Mawrth 2023

Bydd Lowri a Catrin yn dangos y mathau o bethau gallwch eu cyhoeddi ar eich gwefan fro i dynnu sylw at y pethau sy’n bwysig i chi, gan gynnwys:

– sut mae rhannu newyddion da neu stori lwyddiant

– edrych ar sut mae dod â digwyddiad yn fyw

– ffyrdd o rannu hanesion eich clwb neu fudiad

– fideos uchafbwyntiau chwaraeon

– darn barn a safbwynt

– creu cwis

– rhannu hanes lleol

… a bydd cyfle wrth gwrs i holi cwestiynau a thrafod eich syniadau chi.

Cofrestrwch i’r sesiwn zoom. Bydd y sesiwn yn cael ei hailadrodd am 6pm.

(Byddwn yn edrych yn fanylach ar flogiau byw fis nesa)