Cŵm Rag

20:30, 22 Gorffennaf 2023

£15 / £12

Trwsiwch eich het, smwddiwch eich siôl. Ry’ ni am gael parti. 

Yn dilyn eu sioe Cabaret a werthodd allan ym mis Mawrth, mae sêr y llwyfan a’r sgrin, Cŵm Rag, yn dod adre – eto! Mae’r criw o berfformwyr drag LHDTC o Gymru yn adnabyddus am eu sioeau cabaret anarchaidd a chwareus. A hwythau wedi treulio’r ddegawd ddiwethaf yn byw ym mherfeddion gwlyb Llundain fawr, maen nhw wedi cynilo digon o arian i deithio dros bont Hafren (eto).

Mae Cŵm Rag yn dathlu ac yn archwilio beth ydi bod yn Cwiar ac o Gymru. Maent yn edrych yn ddwfn i hanes a diwylliant Cymru gyda winc a gwên. Disgwyliwch delynau a thethi.

Dewch i fwynhau comedi, cerddoriaeth a bwrlesg, a chymerwch olwg o’r newydd ar ddiwylliant poblogaidd a chyfoethog Cymru: Derwyddon, Shirley Bassey, cennin, Catatonia, cyfeiriadau at bwystfileidd-dra, dillad isaf Tom Jones, cennin pedr a Charlotte Church – byddwn ni’n trafod y cyfan, butt.

Mae’r sioe yma yn ddwyieithog; caiff ei pherfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg.