
ADLONIANT; DIWYLLIANT; CHWYLDRO!
YesCymru Bro Ffestiniog yn cyflwyno’r drydedd mewn cyfres o nosweithiau yng nghaffi Antur Stiniog.
Nos Wener 31 Mawrth am 7. (Drysau’n agor am 6:30)
Am ddim, felly’r gyntaf i’r felin gaiff falu!
Catrin O’Neill yn canu, a phrif weithredwr Yes Cymru -Gwern Gwynfil- yn rhoi sgwrs. Geraint Thomas, aelod bwrdd Yes Cymru ar gyfer Meirionnydd fydd yn llywio’r noson.
Bydd y caffi’n gwerthu diodydd poeth a chwrw aballu.