Mae Cyfres Caban Yes Cymru Bro Ffestiniog yn ôl!
Nosweithiau o Adloniant; Diwylliant; Chwyldro.
Y tro hwn efo Mair Tomos Ifans yn diddanu ar thema canu protest a Sian Northey yn adrodd rhai o’i cherddi.
Dewch i fwynhau noson agos atoch chi a chefnogi’r achos.
Bydd diodydd poeth ac oer ar gael tan 9. Lleoliad bach ydi o felly dewch yn fuan i sicrhau lle!