Cymdeithas yr Iaith yn Picedu

12:30, 14 Hydref 2023 – 13:00, 15 Hydref 2023

Mae nifer o bobl yn Aberystwtyth wedi cwyno am y diffyg gwasanaethau Cymraeg yn Swyddfa Post Aberystwyth ac adroddidau am agweddau gwrth-Gymraeg yno.

Mae rhai wedi eu cyfeirio i swyddfeydd post eraill er mwyn cael gwasanaeth Cymraeg-dydy hynny ddim yn ddigon da!

Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn sefydlu bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a bod gan bawb y rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.

Rydyn ni’n galw ar y Swyddfa Post i sicrhau, ymhlith pethau eraill, bod:

Arwyddion mewnol ac allanol cwbl ddwyieithog yn Swyddfa Post Aberystwyth.

Staff sy’n medru’r Gymraeg yn defnyddio’r Gymraeg gyda chwsmeriaid

Staff di -gymraeg yn dysgu geirfa sylfaenol yn Gymraeg-stamp ail-ddosbarth ayyb ac yn gallu cyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg.

Cwsmeriaid sy’n defnyddio’r Gymraeg yn cael eu trin gyda pharch a chwrteisi dyledus.