Cyngerdd Hwyliog Sioe’r Cardis – Nos Wener, 17eg Dachwedd 2023 am 7.00 o’r gloch
Yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth.
Aiff yr elw tuag at Apêl Ceredigion i noddi Sioe Fawr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, 2024.
Yr artistiaid yw Côr Meibion Machynlleth gyda’i lu o dalentau, Adran yr Urdd Aberystwyth ac Aelodau C.FF.I. Ceredigion.
Bydd Ifan Jones Ifans yn arwain ac Elin Jones yn gadeiryddes y noson.
Artistiaid y noson:
Côr Meibion Machynlleth – Ennillwyr cystadleuaeth Côrau Meibion Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023
Sefydlwyd Côr Meibion Machynlleth yn Hydref 2014, yn griw o ddynion ifanc (ac ifanc eu hysbryd) dan arweiniad Aled Myrddin a’u cyfeilyddes Menna Rhys. Daeth y côr at ei gilydd yn wreiddiol er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, ym Meifod yn 2015 – Eisteddfod leol i’r côr. Ers hynny, mae’r côr wedi cystadlu’n flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gipio’r ail wobr ar sawl achlysur, ac ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017. Y flwyddyn honno hefyd cawsant y wobr am y côr gorau yn adran y Corau Meibion yng Nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C.
Mae’r llwyddiant hwnnw hefyd wedi golygu cyfleoedd i gael profiadau eraill gwerth chweil i’r Côr, yn cynnwys canu’r anthemau ar y maes rygbi cenedlaethol cyn gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 2017, canu yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain yn Neuadd Albert yn 2018, a thaith i berfformio yng Ngŵyl Gymreig Ontario, Canada yn 2019. Cafwyd cyfle trwy gwmni Sain i recordio CD ,a gafodd ei rhyddhau yn haf 2018, a hefyd recordio rhifyn Nadolig rhaglen Cefn Gwlad gyda Dai Jones Llanilar yn 2017.
Yn yr Hydref, bydd y côr yn mynd ar daith i’r Eidal, ac yn fuan wedi iddynt ddychwelyd, edrychwn ymlaen at eu croesawu i’r Neuadd Fawr.
Côr Adran yr Urdd Aberystwyth
Hefyd yn perfformio ar y noson bydd Côr Adran yr Urdd Aberystwyth. Dyma gôr arall o gantorion ifanc dawnus dan arweiniad ymroddgar Helen Medi Williams a’u cyfeilyddes Lona Phillips. Maent hwythau eto yn enillwyr cenedlaethol profiadol, a phob amser yn swyno eu cynulleidfa.
CFFI Ceredigion
Yn ogystal, bydd aelodau C.FF.I. Ceredigion, mudiad ieuenctid ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed, yn ein diddanu gydag eitemau amrywiol.
Edrychwn ymlaen at noson i godi’r to! Dewch yn llu.
I archebu eich tocynnau er mwyn cefnogi’r apêl, cysylltwch â
Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar 01970 62 32 32 / artstaff@aber.ac.uk neu drwy ymweld â’r wefan www.aberystwythartscentre.co.uk