Mae Côr Meibion Dyfnant, yn dal i fod yn gôr bywiog ac uchelgeisiol ac adlewyrchir hyn drwy raglen gyffrous y côr am y tymor 2023/24, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae’r côr ar fin lansio “Taith Cymru”, yr un gyntaf erioed i’r côr.
Cynhelir cyngerdd cyntaf y daith yng Nghadeirlan Aberhonddu ar 25 Tachwedd 2023.
Bydd Côr Meibion Dyfnant yn canu gyda Chôr Meibion Aberhonddu a’r cylch a hefyd Erin Thomas, unawdydd ifanc a thalentog.