DakhaBrakha

19:30, 22 Ebrill 2023

Mae DakhaBrakha yn bedwarawd cerddoriaeth o Kyiv, Wcráin. Gan adlewyrchu elfennau sylfaenol o sain ac enaid, mae’r band DakhaBrakha ethno – anhrefn o Wcráin yn creu byd o gerddoriaeth newydd annisgwyl.

Crëwyd DakhaBrakha yn 2004 yng Nghan olfan Celf Gyfoes Kyiv “DAKH” gan y cyfarwyddwr theatr avant – garde – Vladyslav Troitskyi – a rhoddwyd yr enw sy’n golygu “rhoi/cymryd” yn hen iaith Wcráin iddi. Mae gwaith theatr wedi gadael ei ôl ar berfformiadau’r bandiau – mae eu sioeau bob amser yn cae l eu llwyfannu gydag elfen weledol gref.

Ar ôl arbrofi gyda cherddoriaeth werin Wcráin, mae’r band wedi ychwanegu rhythmau’r byd o gwmpas i mewn i’w cerddoriaeth, gan greu sŵn llachar, unigryw a bythgofiadwy DakhaBrakha. Maent yn ymdrechu i helpu i agor po tensial alawon Wcráin a dod â hynny i galonnau ac ymwybyddiaeth y genhedlaeth iau yn Wcráin a gweddill y byd hefyd.

Gyda chyfeiliant offerynnau traddodiadol Indiaidd, Arabaidd, Affricanaidd, ac o Wcráin, mae amrediad lleisiol rhyfeddol o bwerus a digyfadda wd y pedwarawd yn creu sain traws – wladol sydd wedi’i wreiddio yn niwylliant Wcráin. Ar groesffordd llên gwerin a theatr Wcráin, mae eu sbectrwm cerddorol ar y dechrau yn agos atoch ac yna’n blith draphlith, gan blymio i ddyfnderoedd gwreiddiau a rhythmau c yfoes, gan ysbrydoli “rhyddhad diwylliannol ac artistig”.

Ym mis Mawrth 2010, enillodd DakhaBrakha y wobr fawreddog Grand Prix a enwyd ar ôl S.Kuriokhin, ym maes celf gyfoes, a chadarnhaodd ei le yn y diwylliant unwaith eto. Ym mis Mawrth 2011 darganfuwyd DakhaBrakha gan Womadelaide o Awstralia ac yn sgil hynny dechreuasant ddringo yn y sin gerddoriaeth ryngwladol. Ers hynny maent wedi chwarae mwy na 300 o gyngherddau a pherfformiadau ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau rhyngwladol mawr ledled Dwyrain a Gorlle win Ewrop, Rwsia, Asia, Awstralia a Gogledd America. Mae DakhaBrakha hefyd wedi cydweithio â cherddorion rhyngwladol fel: Port Mone (Belarws), Clwstwr Kimmo Pohjonen (Ffindir), Karl Frierson (DePhazz) (Yr Almaen), Steve Cooney (Iwerddon), Inna Zhelannaya ( Rwsia), Kievbass (Wcráin), Djam (Wcráin – Iran), a David Yengibaryan (Hwngari)

pontio.co.uk