Dewch i ddathlu ail-agor Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley ddydd Sul 29ain Hydref, o 1pm.
Yn dilyn gwelliannau diweddar gan Gyngor Gwynedd, bydd y Cynghorydd Sir Lleol dros Waunfawr, Edgar Wyn Owen yn agor y parc unwaith eto i’r cyhoedd gyda digwyddiad dathlu dan ofal Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys llu o weithgareddau hwyliog i’r teulu yn cynnwys:
- Gweithgareddau i ddarganfod natur gydag arbenigwyr lleol.
- Cyfle i ddysgu am y Bartneriaeth Natur Leol a sut i gymryd rhan.
- Crefftau a gweithgareddau natur addysgiadol gydag ‘Elfennau Gwyllt’.
- Peintio wynebau
- Smwwdis i’r 100 cyntaf.
Mae’r trefnwyr yn annog trigolion lleol i gerdded i lawr i’r parc o’r pentref, ond bydd mannau parcio cyfyngedig ar gael yn Nhafarn Snowdonia Parc. Os ydych chi angen gyrru draw, parciwch yn ochr y wersyllfa os gwelwch yn dda (cylch coch yn dangos) er mwyn cadw lle o flaen y tafarn i gwsmeriaid.