Dathlu Gregor a’i Goron

7 Hydref 2023

£10

Cynhelir noson Bragdy’r Beirdd: Dathlu Gregor a’i Goron yn Yr Hen Lys, Caernarfon, ddydd Sadwrn, Hydref 7fed, gan ddechrau am 7:30 pm ac yn cyfrannu at y noson bydd amrywiaeth o feirdd a chantorion, pob un yn dod â’u llais a’u persbectif unigryw i’r llwyfan i gyfarch Rhys Iorwerth ar ei gamp o ennill coron Eisteddfod 2023 neu i edrych yn ôl ar Eisteddfod wych haf 2023.

Yn ddi-os bydd nifer o wynebau cyfarwydd, a blas lleol i’r noson gan mai Ifor ap Glyn fydd wrth y llyw yn arwain y noson a Geraint Lovgreen a Hywel Pitts yn cyfrannu caneuon hwyliog wrth y piano. Mae Marged Tudur ac Iwan Rhys, rhai o gyd-aelodau Rhys yn nhîm Dros Yr Aber, pencampwyr Y Talwrn 2023 ymysg y rhai sy’n cyfrannu ac yn trefnu’r noson, ynghyd ag Osian Owen a Nici Beech.  Bydd Iestyn Tyne, oedd yn agos iawn at gipio’r goron ei hun eleni yn holi Rhys am ei gamp gydag Arwyn Groe, Arwel Pod Roberts, Hywel Griffiths, Sara Louise Wheeler, Nia Powell a Buddug Roberts yn teithio rhai milltiroedd i ymuno yn y dathlu. Yn teithio o gryn bellter i fyny’r A470 i gyfarch bydd Mari George ac Osian Rhys Jones, yn ogystal â  Marc Le Siarc, porthor y Bragdy, i groesawu’r gynulleidfa i’r Hen Lys.

Y llynedd, trefnwyd noson debyg i ddathlu camp un arall o feirdd Caernarfon, sef Llŷr Gwyn Lewis, a enillodd y Gadair yn Nhregaron, ac roedd y digwyddiad hwnnw’n llwyddiant ysgubol. Rhoddwyd yr elw o’r noson honno yn hael i bwyllgor apêl leol Caernarfon, i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod ym Moduan ac eleni, mae’r traddodiad yn parhau wrth i Rhys Iorwerth, ddewis Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024 i dderbyn elw’r noson.

 Mae galw mawr am docynnau, gyda dros hanner ohonynt eisoes wedi’u bachu. Maent ar werth ymlaen llaw am £10 yn unig a gellir eu prynu yn siop lyfrau Palas Print gydag arian parod neu ar-lein drwy ddilyn y ddolen  i archebu ac wedyn gwneud taliad uniongyrchol o’ch cyfrif banc.