Dathlu Richard Price 300

17:00, 9 Tachwedd 2023

Am ddim

(c) Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales; Supplied by The Public Catalogue Foundation

Ymunwch â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd wrth i ni ddathlu trichanmlwyddiant geni Richard Price, un o feddylwyr mwyaf dylanwadol a radical Cymru.

Yn enedigol o Langeinor, ger Pen-y-bont ar Ogwr (1723), roedd Price yn athronydd, yn awdur, yn athro, yn fathemategydd ac yn bregethwr. Llais allweddol yn nghyfnod chwyldroadau Ffrainc ac America, roedd yn gohebu â rhai o arlywyddion y dyfodol, Thomas Jefferson, John Adams a George Washington.

Amserlen y Noson:

  • 5.00pm: Croeso gan y Llyfrgellydd, Pedr ap Llwyd, a chyflwyniad i’r noson gan yr Athro Mary-Ann Constantine 
  • 5.10pm: Darlith gan yr Athro E. Wyn James: ‘Watford: man cyfarfod radicaliaethau rhyngwladol’
  • 6.00pm: Derbyniad gwin a chyfle i weld portread Richard Price gan Benjamin West
  • 6.20pm: ‘Richard Price a Brwydr y Pamffledi’: cyflwyniad bywiog i chwaraewyr allweddol ‘Dadl y Chwyldro’ gan yr Athro Mary-Ann Constantine, yr Athro Mary Fairclough a gwestai eraill
  • 7.15pm: Lansiad ‘Poems for Richard Price’ (gol. Kevin Mills a Damian Walford Davies) yng nghwmni rhai o’r cyfranwyr
  • 7.45pm:  Sylwadau cloi gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones (Cyfarwyddwr y Ganolfan)

 
Cynhelir y digwyddiad hwn yn y Gymraeg a‘r Saesneg, gyda chyfieithu ar y pryd.