Denbigh, Ruthin and Corwen Railway in the Vale of Clwyd

19:00, 20 Ionawr 2023

am ddim

Sgwrs ar-lein yn Saesneg gan Fiona Gale

O’r 1860au hyd at yr 1960au gwasanaethwyd Dyffryn Clwyd gan reilffordd oedd yn cysylltu lein Dyffryn Dyfrdwy yn y de i’r ffordd ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Yn ddiweddar mae prosiect yn Rhuthun i ailwampio craen oedd yn gysylltiedig â’r rheilffordd wedi gweithio fel catalydd i brosiect ehangach, yn casglu atgofion am y rheilffordd, yn archwilio rhai o nodweddion y lein ac yn ymchwilio ychydig i’r hanes. Bydd y sgwrs yn archwilio ychydig o’r gwaith yma.

Tan ei hymddeoliad roedd Fiona Gale yn Archaeolegydd y Sir yn Sir Ddinbych. Mae hi wedi bod yn ymgynghorydd a mentor i grwpiau cymunedol niferus, ac wedi trefnu, wedi arwain, neu wedi cymryd rhan mewn cannoedd o ddigwyddiadau, teithiau tywysedig, sgyrsiau, a darlithoedd. Yn 2020 penodwyd Fiona yn MBE am wasanaethau i Dreftadaeth yng Nghymru.

Cliciwch y ddolen islaw er mwyn cofrestru: