Disgo tawel ym Mhlas Newydd

11:00, 2 Rhagfyr 2023 – 14:00, 24 Rhagfyr 2023

Mae prisiau mynediad arferol yn berthnasol

Dawnsio yn yr Ystafell Gerdd

Mae digon o hwyl y Nadolig ym Mhlas Newydd y gaeaf hwn. Dilynwch yn ôl troed trigolion Plas Newydd y gorffennol, ac ymunwch â ni am ddisgo tawel yn yr Ystafell Gerdd, ynghyd â goleuadau disgo a gemau parti.

Ymgollwch eich hunain yn hwyl yr ŵyl ym Mhlas Newydd gyda disgo tawel. Gan ddilyn yn ôl troed trigolion y gorffennol, cynhaliwyd partïon lu ym Mhlas Newydd ar hyd ei hanes.

Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddawnsio’r diwrnod i ffwrdd yn ein disgo tawel yn y Tŷ. Bydd yr Ystafell Gerdd yn cael ei haddurno â goleuadau disgo a gemau parti.

Rhwng 2 Rhagfyr a 24 Rhagfyr ar benwythnosau yn unig.