Theatr Bara Caws yn cyflwyno
Cyfieithiad Angharad Tomos o Blackthorn gan Charley Miles.
Ar yr wyneb mae’n blanhigyn cwbl wahanol, ond yr un yw’r gwraidd.Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae’r ddau’n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae’r clymau’n dechrau datod.Mae cefn gwlad yn newid a’r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad. Mae’r ddrama yma’n siwr o daro tant gyda’n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw.
Canllaw Oed: 14+ (defnydd o Iaith gref)