Dragwyl: Connie Orff a’i Ffrindiau

20:30, 13 Gorffennaf 2023

Wedi noson urddfreiniol (swnio’n posh!) Dragwyl llynedd, mae Connie Orff a’i ffrindiau wrth eu bochau i ddod yn ôl at ei gilydd i ddathlu Drag Cymraeg!

Gyda Dragwyl 2022 yn llwyddiant ysgubol, a’r dorf yn sgrechian am ragor, mae Cwîns a Chings Cymru yn barod i ddod â’u GLAM i lwyfan Cabaret Canolfan Mileniwm Cymru am un noson yn unig.

Paid a cholli dy gyfle i ymuno â Connie a’i thylwyth frenhinol am noson gynhwysgar, gwefreiddiol a gwych!

NB. Ma’ croeso anferth i ti wisgo’n GLAM!