Gyda’r 10fed gwefan fro newydd fynd yn fyw, a gyda phob bro yn Arfon a Cheredigion yn berchen ar eu gwasanaeth straeon lleol eu hunain er byn diwedd y gwanwyn, mae Bro360 yn awyddus i gynnig y cyfle i ardaloedd eraill ymuno.
Gwefannau straeon lleol Cymraeg yw’r gwefannau bro – yn llawn erthyglau, fideos, blogiau byw ac ati gan bobol leol, i bobol leol.
Os hoffech chi:
– glywed mwy am beth yw gwefannau bro a sut gallant fod o fudd i’ch gymuned chi
– gweld sut mae cymunedau eraill wedi elwa o gael lle ar y we i’w mudiadau, busnesau a digwyddiadau
– dechrau ystyried y posibilrwydd o sefydlu gwasanaeth digidol Cymraeg ochr yn ochr â’ch papur bro…
Cofrestrwch i ymuno â’r sgwrs zoom ar 9 Mawrth.
Sesiwn wybodaeth yw hon, sy’n agored i bawb yng Nghymru. Nid yw ymuno yn y sgwrs yn ymrwymiad i fwrw ati i greu gwefan fro yn y pen draw.