Enfys
Posteri , Gwaith Celf a Lluniau gan Stuart a Lois Neesham (1972-1976)
Bydd arddangosfa ddiweddaraf Storiel yn canolbwyntio ar Enfys, argraffdy cyffroes a sefydlwyd ym Methesda yn 1972 cyn symud i Lon Gaernarfon yng Nglanadda am y 4 blynedd nesaf. Bydd yr arddangosfa yn arolwg o’r gwaith a chrëuwyd dros y cyfnod yma. Roedd comisiynau Enfys yn cynnwys cloriau llwch i lyfrau argraffdy Gwasg Gee yn bennaf Afal Drwg Adda gan Caradog Prichard i gloriau recordiau bandiau fel Yr Atgyfodiad a Brân. Roedd argraffdy enfys yn adnabyddus am ei i bosteri llachar ac arloesol i gigiau cerddoriaeth roc seicadelaidd a gynhelir yn Prif Ysgol Bangor yn y saithdegau cynnar
Mae’r arddangosfa yma yn gyfle gwych i gael cipolwg ar yr is ddiwylliant roc a pop yng Ngogledd Cymru a’r bandiau rhyngwladol wnaeth ddod i ddiddanu trigolion lleol a myfyrwyr y ddinas .
Bydd ar arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o Ebrill 29 i Orffennaf yr 8fed (11 -5 yh Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn)
Storiel , Ffordd Gwynedd , Bangor, Gwynedd LL57 1DT