ENFYS. Posteri , Gwaith Celf a Lluniau gan Stuart a Lois Neesham (1972-1976)

11:00, 28 Ebrill 2023 – 17:00, 8 Gorffennaf 2023

Am Ddim

Enfys

 

Posteri , Gwaith Celf a Lluniau gan Stuart a Lois Neesham (1972-1976)

 

Bydd arddangosfa ddiweddaraf  Storiel yn canolbwyntio ar Enfys, argraffdy cyffroes  a sefydlwyd ym Methesda yn 1972  cyn symud i Lon Gaernarfon yng Nglanadda am y 4 blynedd nesaf.  Bydd yr arddangosfa  yn arolwg o’r gwaith a chrëuwyd dros y cyfnod yma. Roedd comisiynau Enfys yn cynnwys  cloriau  llwch i lyfrau argraffdy Gwasg Gee yn bennaf Afal Drwg Adda  gan Caradog Prichard i gloriau recordiau bandiau fel Yr Atgyfodiad a Brân. Roedd argraffdy enfys yn adnabyddus am ei  i bosteri llachar  ac arloesol i  gigiau  cerddoriaeth roc  seicadelaidd a gynhelir yn Prif Ysgol Bangor yn y saithdegau cynnar 

Mae’r arddangosfa yma yn gyfle gwych i gael cipolwg ar yr is ddiwylliant roc a pop  yng Ngogledd Cymru a’r bandiau rhyngwladol wnaeth ddod i ddiddanu trigolion lleol a myfyrwyr y ddinas .

 Bydd ar arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o Ebrill 29 i  Orffennaf yr 8fed (11 -5 yh Dydd Mawrth i  Ddydd Sadwrn)

Storiel , Ffordd Gwynedd , Bangor, Gwynedd LL57 1DT