Ffair Hydref CRhA Ysgol Llanybydder

10:30, 30 Medi 2023

Am ddim

Mae Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Llanybydder yn cynnal Ffair Hydref yn neuadd yr ysgol.

Bydd cawl ar gael i’w brynu, gan ddefnyddio cynnyrch o ardd yr ysgol, ynghyd â stondinau niferus, yn gwerthu: gemwaith ~ crefftau ~ cardiau ~ canhwyllau ~ brownis a chwcis ~ a mwy! Bydd raffl yn cael ei thynnu ar y diwrnod hefyd. 

Anogir unrhyw fusnesau bach, sy’n dymuno cael stondin, i gysylltu â’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon trwy eu tudalen Facebook: ‘Ffrindiau Ysgol Llanybydder School Friends’. Mae stondinau’n costio £10 + gwobr raffl. Dewch i gefnogi eich ysgol leol!