Ffair Nadolig Plas Ffrancon

10:00, 9 Rhagfyr 2023

Dewch i ddechrau eich siopau Nadolig hefo ni!🎄
Ar yr 9fed o Ragfyr 2023 rhwng 10:00 – 14:00 o’r gloch bydd ein Ffair Nadolig yn cael ei cynnal ym Mhlas Ffrancon, Bethesda.

Pam ddim dod draw i wneud eich siopau Dolig a mwynhau mins pei a phanad? Mi fydd hefyd teganau a chastell neidio yn y neuadd chwaraeon, felly mae ’na rywbeth i’r teulu cyfan!

£10 y stondin – cysylltwch a’r ganolfan ar 01248 601515 i archebu bwrdd.