Dydd o ddathlu i gofio Sant Silin (a ddaeth a Christnogaeth i’r parthau hyn tua 1.500 o flynyddoedd nol) ac i ail-danio cynhesrwydd a goleuni’r hen ffair gyflogi a cheffylau yng nghanol oerfel a mwrllwch y gaeaf. Ac os oes gennych newydd-ddyfodiaid yn gymdogion, dyma gyfle sbesial iddynt ddod i nabod y gymdogaeth, ei hiaith a’i hanes.