‘Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.’
Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.
Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.
Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.
Cynhyrchiad Theatr Bara Caws mewn cyd-weithrediad â Galeri, Caernarfon.
Canllaw Oed 14+. Defnydd o Iaith gref a chyfeiriadau at themâu all beri loes.