Fleabag

19:30, 15 Medi 2023 – 21:30, 16 Medi 2023

Theatr Clwyd yn cyflwyno

Fleabag

Nos Wener 15 Medi
Nos Sadwrn 16 Medi
7.30pm

Addasiad Cymraeg newydd o’r sioe boblogaidd!

Drama gomedi arobryn Phoebe Waller-Bridge, Fleabag, wedi’i haddasu i’r Gymraeg gan yr awdur o fri, Branwen Davies.

Mae’r sioe fudr, ddoniol, heb ffilter yma’n dilyn siwrnai ddi-drefn Cymraes tuag at fod â dim i’w golli.

Efallai ei bod hi’n ymddangos yn or-rywiol, yn emosiynol amrwd ac yn hunanobsesiynol, ond dim ond y dechrau ydi hynny. Gyda pherthnasoedd dan straen a chaffi mewn trafferthion, mae hi ar y dibyn heb unrhyw le i fynd yn ôl pob tebyg.

16+