Mae’r goedwig yn newid… Ydych chi’n gallu gweld hynny? Camwch i mewn i’r goedwig rithwir a phrofwch ddigwyddiad unigryw: GONDWANA.
Ymdrochwch eich hun yng nghoedwig glaw drofannol hynaf y byd; portread rhydd y gellir ei archwilio o’r Goedwig Glaw Daintree yng Ngogledd Queensland, Awstralia.
Fel y goedwig glaw ei hun, mae Gondwana yn system o bosibiliadau. Mae’r tywydd, tymhorau a bioamrywiaeth yn newid wrth i chi lywio map anferth o goed hynafol, mynyddoedd garw a thraethau delfrydol.
Ond mae naratif ehangach yn cyffroi islaw: dros bob dangosiad, mae’r goedwig glaw yn diraddio, gan gyfleu amcanestyniadau o ddata am yr hinsawdd hyd at y flwyddyn 2090 mewn ffordd artistig. Yr unig eli a all helpu’r dirywiad yma, sy’n ymddangos yn anochel, yw pobl – po fwyaf o amser mae cynulleidfa yn ei dreulio yn Gondwana, y mwyaf gwydn fydd y goedwig.
Mae pob dangosiad yn unigryw ac yn ddamcaniaethol: myfyrdod tawel am amser, newid a cholled mewn ecosystem na all unrhyw beth gymryd ei lle.