Gweithdy gohebu bro – i bobol ifanc

10:00, 12 Ebrill 2023

Mae pawb yn gallu bod yn ohebydd bro.

Os oes ‘da ti ffôn bach yn dy boced, galli di fod yn newyddiadurwr lleol sy’n rhannu’r pethau sy’n digwydd yn dy ardal di – yn fideos, lluniau, erthyglau neu flogiau byw.

Mae’r pethau sy’n bwysig i bobol ifanc yn haeddu sylw.

Mae Golwg ac Aeron360 yn cynnig cyfle arbennig i bobol Aberaeron a Dyffryn Aeron dros wyliau’r Pasg eleni.

Byddwn yn cynnal gweithdy i ysbrydoli pobol ifanc i rannu eu stori!

Dewch draw i Theatr Felinfach fore Mercher 12 Ebrill o 10 tan 12, i fanteisio ar gyfle gwych i ddysgu sgil newydd, cael sbort a rhannu’r pethau sydd o ddiddordeb i chi.

AC MAE E AM DDIM!

(Does dim angen profiad blaenorol, does dim angen sgiliau Cymraeg anhygoel – jyst brwdfrydedd!)

Cofrestrwch o flaen llaw: lowrijones@golwg.cymru