Gŵyl Augustus John

10:15, 17 Mehefin 2023

£15

Created with GIMP

Gŵyl ddwyieithog i gofio’r arlunydd Cymreig a’i amser yn Lerpwl

Canolfan Cymry Lerpwl, Capel Bethel, Auckland Road, Lerpwl L18 0HX

Ymholiadau a thicedi: Rhiannon Liddell, 0151 476 3949

10:15 Sgwrs ar Augustus John, ei fywyd a’i yrfa fel arlunydd

11:15 Egwyl am baned

11:45 Sgwrs ar Dr John Samson, dylanwad mawr ar Augustus John

12:45 Diwedd sesiwn y bore

Bydd y prynhawn yn rhydd. Beth am ymweliad i Oriel Gelf Walker, neu ginio a pheint mewn un o dafarndai’r ddinas?

19:30 Cyngerdd gan Aelwyd Manceinion

Bydd cyfieithiad ar y pryd i’r Saesneg ar gael yn ystod sesiwn y bore