Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica

10 Mehefin 2023 – 11 Mehefin 2023

Tocyn dydd £30, tocyn penwythnos £50

Penwythnos o gerddoriaeth wefreiddiol o ar draws Addrica gyda dawns, perfformiadau Affro-Gymraeg, gweithdai, arddangosfa celf/ffotograffiaeth a llawer mwy. Gwir ddathiad o Affrica yng Nghymru!

Mae Dathliad Cymru Affrica yn yn gyfle i brofi celf pan-Affricanaidd. Bydd y penwythnos yn ddathliad o gyfoeth amrywiaeth yng Nghymru, yn benodol diwylliant a chelfyddydau Affricanaidd. Mae gennym artistiaid gwadd o Affrica (Mali, De Affrica, Sudan a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo), ynghyd ag artistiaid Affricanaidd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ac ar draws y DU.