Gŵyl Fwyd Llanbed

10:00, 29 Gorffennaf 2023

Am ddim

Cogydd Seren Michelin yn agor y Cornel Goginio yng Ngŵyl Fwyd Llambed ar 29 Gorffennaf 2023

Ers symud yr Ŵyl Fwyd o’r Stryd Fawr i gampws y Brifysgol yn 1999, mae’r berthynas rhwng y Coleg a’r Dref wedi sicrhau bod yr ŵyl wedi cynnal ei phoblogrwydd ac yn ffefryn mawr ar galendr Gwyliau Bwyd Cymru. Gan ddathlu bwyd a diod Gymreig o safon gyda ffocws cadarn ar fod yn lleol, mae’r ŵyl yn denu dros 10,000 o ymwelwyr i’r dref. Mae’r Ŵyl eleni yn mynd yn ôl i’w gwreiddiau ar adeg pan mae bwyd a ffermio cynaladwy wedi dod yn bwysicach fyth ac yn adleisio brîff gwreiddiol yr Ŵyl i arddangos y llu o gynhyrchwyr bwyd a diod leol yng Ngheredigion a Hen Siroedd Dyfed.

Mae Gŵyl Fwyd Llambed eleni yn rhoi sylw i sut mae’r berthynas rhwng porfa a phlât, llain llysiau a phot coginio, a phobl a’u hadnoddau cymunedol, yn allweddol i gau’r ddolen mewn bwyd a ffermio cynaladwy. Bydd nodwedd arbennig Blas Bro Llambed eleni gydag ardal benodol ar gyfer Blas Cynnyrch Lleol i Lambed.

Bydd y gornel goginio yn cychwyn am 10.00 am gyda’r cogydd seren Michelin, Nathan Davies o SY23. Bydd Nathan hefyd yn hyrwyddo ei lyfr cyntaf ‘On Fire’. Mae’r gyfres goginio yn dilyn gydag enillydd cystadleuaeth Cogydd Ifanc Tir Glas, Llysgennad Slow Food Cymru Gareth Johns, awdur a garddwr Dim Palu Stephanie Hafferty, Huw Morgan o Goleg Arlwyo Coleg Ceredigion gyda chefnogaeth y myfyrwyr arlwyo presennol, Alex Cook o Sir Gâr a Gareth Richards o Gegin Gareth. Gwiriwch i mewn am unrhyw newidiadau i’r amserlen.

Bydd digwyddiadau ychwanegol yn cael eu cynnal yn yr Hen Neuadd a Llyfrgell y Brifysgol i hysbysu ac ysbrydoli yn cynnwys:

HEN NEUADD

9.00yb – 11.00yb

Ashley o Dancing Tree Sound yn cynnal cyfres o Faddonau Gong Lles ar eu heistedd, i ymlacio’r corff a thawelu’r meddwl.

11.30 – 12.15pm

Bydd Carwyn Graves a Barny Haughton, aelodau staff Tir Glas, yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar ddyfodol bwyd a ffermio cynaladwy gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Tir Glas

1.00pm – 16.00pm

Mae adrannau’r Brifysgol yn cynnal ‘Môr Ladron Bwyd’ yn dilyn cwrs ar gyfer Bwyd Cynaladwy Arloesol ac yn ysgogi ryseitiau ar gyfer newid.

LLYFRGELL

12.30pm – 16.00pm – Gwerth Gŵlan / The Worth of Wool (cyflwyniad gan Deborah Mercer am 14:00)

12.30pm – 16.00pm – Arddangosfa Casgliadau Arbennig – Gwledd o Natur

Mae ein cornel hwyl i blant wedi ei leoli ger ein Pabell Adloniant lle gallwch ddewis o ystod o anterliwtiau cerddorol – gweler ein rhaglen.

Eleni bydd gennym raffl sy’n cynnwys tocyn gwobr gwerth £350 tuag at wyliau Bluestone, cinio dydd Sul i 2 yng Ngwesty’r Falcondale yn Llanbedr Pont Steffan, cinio dydd Sul i 2 yng Ngwesty’r Wynnstay ym Machynlleth, Copi o lyfr coginio cyntaf Nathan Davies ‘On Fire’, Hamper Bwyd Cegin Gareth a thocyn gwerth £80 Gwesty’r Harbwrfeistr.

Wedi’i lleoli ar gampws y Brifysgol yn Llambed, mae’r ŵyl yn ddiwrnod allan gwych i bob oedran, ac mae mynediad am ddim. Mae digon o le parcio ar dir Pontfaen, gyda mynediad gwastad ar droed drwy’r dref. Darperir lle parcio ar y safle i ddeiliaid Bathodynnau Glas.

Peidiwch â cholli allan ar y digwyddiad gwych hwn ar ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf! Agor o 10 y bore tan 5 y prynhawn. Bydd agoriad swyddogol am 12.30 gyda’n gwestai arbennig Patrick Holden CBE, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaladwy a ffermwr lleol a chynhyrchydd caws Hafod. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â foodfest@lampeterevents.co.uk  neu ewch i’n gwefan.