Gŵyl Fwyd Llangefni

09:00, 28 Hydref 2023

Am ddim

Bydd dros 60 o stondinau bwyd a diod o bob math yn ymgasglu ym maes parcio Neuadd y Dref yn Llangefni ar y 28ain o Hydref eleni, ac yn ôl y trefnwyr, mae’n argoeli i fod yn un o’u digwyddiadau mwyaf hyd yn hyn!

Bydd cyfle ichi fwynhau cynhyrchion lleol hyfryd a bwydydd rhyngwladol, a bydd stondinau grefftau lleol yno hefyd!

Yn ogystal â’r amrywiaeth eang o stondinau bwyd, bydd rhai stondinau yn gwerthu cwrw, seidar a gwirodydd lleol.

Cynhyrchwyr / Stondinwyr sydd â diddordeb cymryd rhan, cysylltwch â: emyrowen411@btinternet.com