Gwylnos Wcráin

18:30, 24 Chwefror 2023

Pan ddaw 24 Chwefror eleni, bydd yn flwyddyn ers i luoedd Rwsia ddechrau’r ymosodiad ar Wcráin. Byddwn yn cynnal gwylnos yn Festri Bronant y noson honno ac yn casglu arian at apêl DEC Wcráin. Croeso i bawb ymuno â ni i gofio ac i weddïo ar i’r dinistr a’r dioddefaint ddod i ben.