Y Gymraeg yn ein tirlun

10:00, 4 Mehefin 2023

Dewch i ddysgu am waith Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn Nhŷ Mawr Wybrnant. Os oes gennych wybodaeth am enwau’r ardal gallech gyfrannu at fap digidol, dewch a nhw efo chi. Gorau oll os ydynt eisoes wedi nodi ar fap papur gennych. Mae mapiau taliad sengl y ffermwyr yn ddelfrydol neu restr cyn belled a bo Rhif Grid Cenedlaethol ar gyfer pob enw fel gellir eu lleoli. Os nad ydych wedi gwneud unrhyw ymchwil i enwau lleoedd yr ardal beth am ddod draw i ddysgu mwy – pwy a ŵyr efallai bydd yn sbardun i chi fwrw iddi!