
Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus!
Dewch i drio’n crefftau ciwt a thrawsnewid yn dditectif pedair coes, cyn mynd ar drywydd y cwningod chwareus sy’n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa.
Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!
1. Cofia gyfri…Mae gan bob un o’r cwningod cudd fasged o wyau. Sawl wy sydd yn eu basgedi? Ysgrifenwch y rhif yn yr wy gwag ar y daflen.
2. Gweld y Gwahaniaeth… defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa.
3. Yr Wy Aur… ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i’r wy aur bach iawn iawn sy’n cuddio yn yr amgueddfa?
Gwobr siocled (gwobr heb gynnyrch laeth ar gael).
Archebwch ymlaen llaw.