‘Rhyddid: Cerddi’r Goron 2023’ – holi’r Prifardd Rhys Iorwerth, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, yn Ystafell 0.31, Adeilad John Percival, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, CF10 3EU, am 7.15pm. 

Cyfarfod agoriadol y tymor ar gyfer Cylch Llyfryddol Caerdydd yw hwn. Croeso cynnes i aelodau hen a newydd. Y tâl aelodaeth am y tymor 2023-24 yw £10. Am ragor o wybodaeth, ac i fynd ar restr ebostio’r Cylch, cysylltwch â’r Ysgrifennydd, yr Athro E. Wyn James: JamesEW@caerdydd.ac.uk