Bydd 2 gyfle i gofnodi’r wyliau arbennig yma yng nghalendr yr Eglwys…
Yn draddodiadol mae’r Wyl Holl Saint yn dilyn Calan Gaeaf, ar y 1af o Dachwedd, ac yna Wyl Holl Eneidiau ar 2ail o Dachwedd. Felly, ar ddydd Mercher 1af o Dachwedd, am 10:30 y bore, bydd ein gwasanaeth ganol wythnos yn dathlu’r ddau wyl gyda cyfle i oleuo canhwyllau er cof am anwyliaid rydym wedi colli a darllen eu henwau; a hefyd i gofio’r rhai oedd yn saint ar y ddaear ac yn dal i ysbrydoli ni heddiw. Gyda’r nos, fydd ein Awr Aur, rhwng 7 ag 8 yr hwyr, yn ganolbwyntio ar yr wyliau yma gyda cherddoriaeth, myfyrdodau a dawelwch i enaid cael llonydd.
Mae croeso i unrhyw un ymuno yn ein gwasanaethau, neu gyrru enwau i’w darllen