Mia Lloyd ac Ifan Phillips: yn ysbrydoli

20:00, 19 Hydref 2023

Mae noson arbennig yn cael ei chynnal yng nghwmni dau berson ifanc ysbrydoledig, sy’n goresgyn heriau ers colli coes.

Nos Iau 19 Hydref bydd Aled Scourfield yn holi Mia Lloyd ac Ifan Phillips am eu heriau, a sut mae byd y campau wedi chwarae rhan fawr yn eu bywydau cyn ac ar ôl eu llawdriniaethau.

Mae Ifan Phillips yn gyn-chwaraewr rygbi proffesiynol sydd wedi troi ei fywyd rownd ers ei ddamwain motobeic ddifrifol.

“Ble bynnag mae Ifan, mae gole.”

Ar rhaglen Ifan Phillips: Y Cam Nesaf ar S4C yn ddiweddar, mae cyn fachwr Cymru, Kevin Phillips, yn canu clodydd ei fab am ymateb mor gadarnhaol i’w sefyllfa.

Mae Ifan bellach wedi dechrau hyfforddi ei dîm rygbi lleol yng Nghrymych, mae’n sylwebu, ac yn cymryd pob cyfle i fanteisio ar brofiadau positif sydd ar gael i bobol yn ei sefyllfa e.

Troi ei llaw at daflu’r ddisgen

Dros yr haf buodd Mia Lloyd – disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Aberteifi – yn taflu’r ddisgen yng Ngemau’r Gymanwlad i Ieuenctid yn Trinadad a Tobago, a hynny chwe mis yn unig ers iddi ddechrau ymddiddori yn y gamp.

Collodd Mia ei choes yn dilyn diagnosis o ganser prin iawn pan oedd yn 10 oed, ond dyw hynny heb ei hatal rhag parhau gyda’i diddordebau ym myd y campau.

Mia ac Ifan: yn ysbrydoli

Dewch i glywed mwy gan Mia ac Ifan yn y sgwrs ysbrydoledig hon sy’n cael ei threfnu gan Chwys – y cylchgrawn chwaraeon newydd.

8pm nos Iau 19 Hydref

Clwb Rygbi Aberteifi

Am ddim i danysgrifwyr Chwys (tanysgrifiwch am £1 y mis), neu gallwch brynu tocyn i’r digwyddiad am £8.