Cynhyrchiad theatr newydd sbon
Dyma’r parti sy’n newid ei byd am byth.
Mae Josie yn darganfod parti hudolus o dan y dŵr sy’n well nag unrhyw barti dynol erioed. Mae’n fyd lle mae’n darganfod ei gwir hunan – ac Imrie Sallow.
Uwchben y dŵr, mae hi ar goll mewn byd lle nad yw’n perthyn, â chwaer sydd eisiau iddi fod yn ‘hapus a normal’. Ond yng nghysgodion y byd arallfydol daw cyfrinach teuluol i’r wyneb sy’n newid popeth.
Wedi ei ysgrifennu gan Nia Morais (Crafangau / Claws, A Midsummer Night’s Dream gan Theatr y Sherman), mae Imrie yn gynhyrchiad Cymraeg i oedolion ifanc am obaith a dewrder.
Cyfarwyddwyd gan Gethin Evans (Woof, Ynys Alys, Galwad).
Gyda chapsiynau Saesneg ym mhob perfformiad, gall dysgwyr Cymraeg, siaradwyr Cymraeg newydd a’r di-Gymraeg ddilyn y sioe drwyddi draw.