Sgwrs ar-lein yn Saesneg gan David S Crawford
Roedd Jimmy Shand (1908 -2000) yn gerddor o’r Alban oedd yn chwarae ac yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer yr acordion. Yn y ddarlith yma, byddwn yn dilyn gyrfa’r dyn hynod hwn o’i wreiddiau tlawd fel glöwr yn Fife at ei gyfnod fel artist recordio llwyddiannus a cherddor adnabyddus ar radio a theledu. Cawn glywed am ei waith cynnar gyda’r BBC, ei recordiadau gyda Recordiau Beltona, ac wedyn ei recordiadau gyda Parlophone – Jimmy Shand oedd yr artist a werthodd fwyaf iddyn nhw tan i’r Beatles gyrraedd yn y 1960au.
Byddwn hefyd yn trafod “The White Heather Club”, rhaglen deledu BBC yr Alban am Ganu Gwlad yr Alban – Jimmy Shand gyfansoddodd y cyflwyniad ac yn aml ef oedd y cerddor arweiniol. Lansiwyd y rhaglen yn y 1950au hwyr ac roedd yn boblogaidd trwy’r DU am nifer o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, Jimmy Shand ac Andy Stewart (un o gyflwynwyr y rhaglen) yn ôl pob tebyg oedd cynrychiolwyr mwyaf amlwg cerddoriaeth Albanaidd i genhedloedd eraill y DU.
Curadur amgueddfa Gwefr Heb Wifrau yn Ninbych yw David Shand Crawford. Mae fe’n beiriannydd oedd yn gweithio yn y maes darlledu, ar gyfer y BBC a chwmnïau eraill.
Cliciwch ar y ddolen i gofrestru am le yn y gynulleidfa