Ymunwch â’r awdur a’r sgriptiwr arobryn Fflur Dafydd mewn trafodaeth gyda Alis Hawkins am ei nofel ddiweddaraf, stori gyffro sydd wedi’i osod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, THE LIBRARY SUICIDES. Yn y llyfr, mae’r efeilliaid Ana a Nan ar goll mewn galar wedi marwolaeth eu Mam. Mae pawb yn gwybod pwy a yrrodd Elena, y nofelydd enwog, i hunanladdiad – Eben, ei ddifrïwr llenyddol hirdymor. Ond mae’r efeilliaid angen tystiolaeth os maent am ddial. Gyda chynllunio gofalus, mae’r efeilliaid yn cloi’r adeilad i lawr, gan ddal eu cydweithwyr, y cyhoedd ac yn bwysicaf oll Eben y tu mewn. Mae beth ddechreuodd fel gweithred o ddial yn datblygu mewn i stori gymhleth o deyrngarwch, chymhellion a’r hyn sy’n ein gwneud ni’r un ydym ni.
Mae Fflur Dafydd yn nofelydd, cerddor a sgriptiwr arobryn sydd yn gweithio drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Yn raddedig o Brifysgol East Anglia gyda MA mewn Ysgrifennu Creadigol, mae’n gyn-Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli, ac yn gyn-fyfyriwr o Raglen Ysgrifennu Ryngwladol adnabyddus Prifysgol Iowa. Enwebwyd hi am sawl gwobr BAFTA Cymru yn dilyn ei gwaith sgript.
Magwyd Alis Hawkins yng Ngheredigion, ar y fferm sydd dal yn gartref i’w theulu, ac mae’n bellach yn byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae ei chyfres hanesyddol Teifi Valley Coroner wedi cyrraedd y rhestr fer ddwywaith ar gyfer gwobr CWA Historical Dagger. Er bod ei naratifau yn gymhleth a throellog, mae llyfrau Alis yn cael eu gyrru gan ddau brif gymeriad – mab y sgweier, Harry Probert-Lloyd, a chlerc y cyfreithiwr John Davies – a gan y digwyddiadau penodol yn hanes Dyffryn Teifi sy’n ymddangos ym mhob llyfr.
Mae’r digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.